Ymchwiliad Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'r Adolygiad o Siarter y BBC

 

Tystiolaeth Ymddiriedolaeth y BBC

 

1.    Rôl Ymddiriedolaeth y BBC yw cael y gorau allan o’r BBC i dalwyr ffi’r drwydded ledled y DU, gan gynnwys Cymru. Rydym yn pennu cyfeiriad strategol y BBC. Rydym yn dal y Bwrdd Gweithredol yn gyfrifol am y ffordd mae'n perfformio ei swyddogaethau. Cawn ein cefnogi gan y Cynghorau Cynulleidfa ym mhob un o bedair gwlad y DU sy'n sicrhau bod safbwyntiau amrywiol y rheini sy'n talu ffi'r drwydded yng Nghymru yn dylanwadu ar waith yr Ymddiriedolaeth.  Er bod ein holl Ymddiriedolwyr yn gweithredu er budd talwyr ffi'r drwydded, mae gan bedwar Ymddiriedolwr - sy'n cynrychioli bob un o'r pedair gwlad - rôl benodol i'w chwarae yn y cyswllt hwn.  Dylid darllen ein tystiolaeth i'r Pwyllgor ochr yn ochr â chyflwyniad rheolwyr y BBC sy'n ymdrin â pherfformiad ac agweddau gweithredol y BBC.

 

Darlledu yng Nghymru

2.    Pan aeth y BBC ar yr awyr am y tro cyntaf yng Nghymru ar 13 Chwefror 1923, roedd disgwyliadau'r gynulleidfa yn uchel o'r cychwyn cyntaf ac wrth ymgysylltu â'r gynulleidfa mewn digwyddiadau ledled Cymru mae Cyngor Cynulleidfa Cymru yn sicr yn synhwyro ymdeimlad cryf o gynhesrwydd tuag at y BBC. Mae hefyd yn synhwyro ymdeimlad o berchnogaeth o'r BBC ymysg y bobl ynghyd â disgwyliadau uchel o ran ei rôl ym mywyd cyhoeddus y wlad. Yn aml, esgorodd disgwyliadau uchel ar fentrau beiddgar megis lansio Radio Cymru a Radio Wales i gymeradwyaeth frwd ym 1978.

3.    Mae'r BBC hefyd yn chwarae rôl allweddol mewn nifer o feysydd yn y byd artistig yng Nghymru, yn anad dim drwy gyfraniad Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC i fyd cerddoriaeth.  Hon yw'r unig gerddorfa symffoni lawn sydd wedi'i lleoli yng Nghymru ac mae'n cyflogi llawer o gerddorion o'r radd flaenaf, yn ogystal â chomisiynydd cerddoriaeth.  Mae ei gwaith allanol yn cael ei werthfawrogi'n fawr ac mae ei chyfraniad i wyliau ledled Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru, yn nodedig.

4.    Roedd y croeso, a'r rhyddhad, a welwyd yn ddiweddar pan gyhoeddwyd fod y BBC wedi llwyddo i gadw'r hawliau teledu ar gyfer cystadleuaeth rygbi'r Chwe Gwlad, er bod hynny ar y cyd ag ITV, yn amlygu'r ffaith bod llawer yn ei chael yn anodd dychmygu Cymru heb y BBC.

5.    Mae cynulleidfaoedd yng Nghymru yn gwerthfawrogi gwasanaethau'r BBC yn fawr ac yn gwneud defnydd mawr ohonynt:

6.    Mae effaith economaidd y BBC yng Nghymru hefyd yn sylweddol. Er enghraifft, mae'r BBC yng Nghymru yn gwario £154m ar raglenni sydd naill ai wedi cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru neu gan gynhyrchwyr annibynnol, 60% ar wasanaethau pwrpasol BBC Cymru i Gymru a 40% ar raglenni ar gyfer teledu rhwydwaith.   Yn 2014-15, roedd gwariant uniongyrchol BBC Cymru gyda chyflenwyr a chynhyrchwyr allanol tua £50 miliwn ar gynyrchiadau annibynnol, artistiaid, cyfleusterau ac ati.  Y tro diwethaf i Deloitte fesur effaith economaidd gweithgareddau'r BBC yn y DU yn 2013, roedd yn amcangyfrif bod Gwerth Ychwanegol Gros ei weithgareddau yng Nghymru yn £276 miliwn. Mae hyn yn golygu bod effaith bob punt y mae'r BBC yn ei gwario yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy.

7.    Mae staff o oddeutu 1,300, sy'n aml yn bobl fedrus iawn, gyda chant ohonynt wedi'u lleoli yng Ngogledd Cymru, ac eraill yng Ngorllewin Cymru, yn sicrhau bod BBC Cymru yn cael effaith enfawr ar economi Cymru.   

8.    Nid gwariant BBC Cymru yn unig sy'n cael yr effaith economaidd honno.  Yn sgil gwasgaru swyddogaethau o Lundain, mae Canolfan Gyllid y BBC wedi symud i Gaerdydd ac mae bron i 100 aelod o staff wedi'u lleoli yno.

9.    Mewn gwirionedd, mae penderfyniad y BBC i leoli'r gwaith o atgyfodi Doctor Who yng Nghymru yn 2004, a thargedau Ymddiriedolaeth y BBC ar gyfer cynhyrchu yn y gwledydd datganoledig, wedi creu diwydiant newydd yng Nghymru.  Yn ôl ffigyrau diweddaraf llywodraeth Cymru roedd nifer y bobl oedd yn gweithio yn niwydiannau creadigol y wlad wedi cynyddu 52% rhwng 2005 a 2014 i 47,700. Roedd y trosiant ar draws y sector wedi cynyddu 17.5% yn ystod yr un cyfnod.  Roedd gwerth y cynyrchiadau roedd BBC Cymru wedi'u gwneud ar gyfer rhwydwaith y BBC yn 2014-15 yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £59.1m yn niwydiannau creadigol Cymru.

10.  Rydym hefyd yn rhagweld y bydd adleoli Canolfan Ddarlledu BBC Cymru i Sgwâr Canolog Caerdydd yn cael effaith economaidd sylweddol iawn.  Gan weithio gyda Chyngor Dinas Caerdydd a phartneriaid eraill, ac fel y tenant angori, bydd y BBC yn gweithredu fel catalydd i ddenu pobl eraill, gan hybu'r gwaith o adfywio y rhan hon o'r brifddinas.  Hefyd, bydd gweithio mewn partneriaeth ag S4C er mwyn rhannu cyfleusterau darlledu yn y lleoliad yn cynnig arbedion i'r ddau ddarlledwr.

11.  Mae'r Ymddiriedolaeth yn bendant y dylai'r BBC barhau i gomisiynu cynnwys gan amrywiaeth eang o gynhyrchwyr ledled y DU o dan unrhyw Siarter newydd. Canfu ein Hadolygiad o Gyflenwi Cynnwys bod Strategaeth Cyflenwi Teledu Rhwydwaith y BBC a thargedau'r Ymddiriedolaeth yn unol â hyn (50% o'r gwariant ar gynhyrchu rhaglenni Teledu ar gyfer y rhwydwaith i ddod o'r tu allan i Lundain erbyn 2016 ac, o fewn hyn, o leiaf 17% o'i wariant ar raglenni rhwydwaith i ddod o'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon) wedi bod yn ymyriadau effeithiol, gan gyfrannu at gynnydd o ran lluosogrwydd cyflenwyr yn ogystal â thwf mewn sgiliau cynhyrchu y tu allan i Lundain.  

12.  Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn hanes o lwyddiant aruthrol ac, yn 2014, roedd y gwariant ar gynyrchiadau teledu yng Nghymru yn 6.5% o holl wariant y BBC.  Serch hynny, daethom i'r casgliad bod cyflenwi rhaglenni Rhwydwaith y tu allan i Lundain yn galw am ymyrryd gweithredol ar ran y BBC sydd yn mynd y tu hwnt i'r gofynion o ran bodloni cwotâu a thuag at sicrhau canlyniadau cynaliadwy yn y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr.    Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i ganolfannau cynhyrchu'r BBC ledled y DU gydweithio gyda'r sector annibynnol yn amrywiol ardaloedd y DU i ddatblygu amgylcheddau ecolegol creadigol a chynaliadwy yn lleol.

 

 

 

 

 

Darparu gwasanaethau'r BBC yng Nghymru yn yr iaith Gymraeg ac yn Saesneg yn y dyfodol

 

13.  Mae'r Ymddiriedolaeth yn bendant fod gwasanaethau BBC Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg yn elfen hollbwysig o sut mae'r BBC yn gwasanaethu ei gynulleidfaoedd yng Nghymru ac y dylid chwilio am bob cyfle posib i'w grymuso.

14.  Mewn llawer ffordd, mae gwasanaethau Cymraeg y BBC yn unigryw, ac nid yn unig yng nghyswllt Radio Cymru, sef yr unig wasanaeth radio cenedlaethol sydd ar gael yn Gymraeg.  Nid yw'r cynnwys iaith Gymraeg sy'n cael ei ddarparu i ddysgwyr drwy Bitesize ar gael yn unman arall ac felly rydym yn croesawu ymrwymiad y Bwrdd Gweithredol yn ei ymateb i'r Papur Gwyrdd i ychwanegu at y ddarpariaeth honno:

'Ein bwriad yw creu adnoddau cwricwlwm ar gyfer pob Gwlad, gan sicrhau bod yr hyn rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr yn yr Alban, Cymru ac yng Ngogledd Iwerddon mor gynhwysfawr â'r hyn rydym yn ei gynnig yn Lloegr. Yng Nghymru, byddwn hefyd yn darparu cynnwys yn yr iaith Gymraeg.  Yn y maes hwn rydym yn sylweddoli bod yn rhaid i ni roi ystyriaeth briodol i'n heffaith ar ddarparwyr masnachol wrth ddatblygu ein deunyddiau, a byddwn yn gwneud hynny. Fel darparwr gwasanaethau ledled y DU, credwn hefyd bod angen i ni sicrhau bod ein gwasanaeth yn y maes hwn yn gyson ar draws pedair gwlad y DU"

15.  Rydym yn croesawu'r ffaith bod darpariaeth iaith Gymraeg y BBC yn parhau i ddatblygu wrth i faes darlledu newid a bod S4C ar gael ar iPlayer, bod Radio Cymru ar gael ar yr iPlayer Radio, a'r ddarpariaeth o ap newyddion Cymru Fyw yn ddiweddar yn ddatblygiadau sydd wedi cael croeso brwd gan siaradwyr Cymraeg.

16.  Mae'r Ymddiriedolaeth yn sylweddoli bod peth pryder ynghylch sut y caiff Cymru ei phortreadu ar wasanaethau Rhwydwaith y BBC ac ynghylch swmp ac amrywiaeth y rhaglenni teledu Saesneg eu hiaith sy'n cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, gyda llai o raglenni drama, comedi ac adloniant yn cael eu darparu. 

17.  Mae Adroddiad Marchnad Cyfathrebu diweddaraf Ofcom i Gymru yn nodi - “Cymru oedd yr unig genedl a welodd ostyngiad mewn oriau gwreiddiol o flwyddyn i flwyddyn, i lawr 3% er 2012. Dros y cyfnod o bum mlynedd ers 2008 gostyngodd nifer yr oriau gwreiddiol (gan bob darlledwr) ar gyfer Cymru bron i chwarter (23%) i 923 awr yn 2013”.

18.  Mae Cyngor Cynulleidfa Cymru'r BBC, sy'n hysbysu Ymddiriedolaeth y BBC o farn y gynulleidfa yng Nghymru, wedi cydnabod yr heriau hyn ac wedi nodi'r canlynol yn ei Adolygiad Blynyddol ar gyfer 2014-15:

19.  Serch hynny, mae perfformiad y BBC yng Nghymru yn parhau i fod yn gryf gyda mesurau cyrhaeddiad a gwerthfawrogiad allweddol yn uwch na'r cyfartaledd o gymharu â gweddill y DU.

Cyrhaeddiad (%) a gwerthfawrogiad (AI) Teledu a Radio'r BBC ledled y DU

 

Y DU

Lloegr

Cymru

Yr Alban

Gogledd Iwerddon

Holl gyrhaeddiad Teledu'r BBC

82.5

82.2

85.4

83.4

81.6

Holl AI Teledu'r BBC

81.2

81.3

81.4

80.0

82.4

Holl gyrhaeddiad radio'r BBC

65.6

65.6

75.8

57.3

63.1

Holl AI radio'r BBC

80.1

80.0

82.6

79.7

78.6

Ffigyrau ar gyfer blwyddyn galendr 2014 yw'r rhain i gyd: ffynonellau: BARB yng nghyswllt cyrhaeddiad Teledu, RAJAR yng nghyswllt cyrhaeddiad Radio ac Arolwg Pyls y BBC yng nghyswllt AI.

20.  Er hynny, dengys gweithgareddau tracio'r Ymddiriedolaeth mewn perthynas â pherfformiad y BBC yn hyrwyddo ei Ddibenion Cyhoeddus bod lleiafrifoedd mawr o bobl ym mhedair gwlad y DU yn credu nad oes cynrychiolaeth dda ohonynt yn rhaglenni drama'r BBC: 40% yn Lloegr, 41% yng Nghymru, 49% yn yr Alban a 38% yng Ngogledd Iwerddon[1]. Er gwaethaf y ffaith fod hanner cynyrchiadau Teledu Rhwydwaith y BBC wedi'u lleoli y tu allan i Lundain a sefydlu canolfannau cynhyrchu, megis pentref cynhyrchu Porth y Rhath yng Nghaerdydd, ni cheir cynrychiolaeth ddigonol o amrywiaeth y DU i gyd. 

21.  Rydym yn croesawu'r ymrwymiad a wnaed gan Fwrdd Gweithredol y BBC yn ei gyflwyniad i broses adolygu'r Siarter i bortreadu holl amrywiaeth bywyd yn y DU yn ein holl raglenni a gwasanaethau.  Yn ei gyflwyniad, dywed:

'Mae'r DU yn newid ac nid yw'n hawdd cynrychioli neu bortreadu pob agwedd ar fywyd ym Mhrydain ar draws ein gwasanaethau i gyd.

Ond, mae gan y BBC rôl bwysig i'w chwarae yn y cyswllt hwn, ac yn y Siarter nesaf byddwn yn addasu ein rhaglenni a'n gwasanaethau i fodloni'r gofynion newidiol hyn. Rydym bellach yn gwario'r un gyfran ar deledu rhwydwaith ym mhob Gwlad â'u cyfran nhw o'r boblogaeth.  Ond rydym yn sylweddoli nad gwariant yw bopeth - mae angen i ni wneud mwy, a'i wneud yn well, er mwyn adlewyrchu bywydau a phrofiadau holl dalwyr y drwydded. Yn ystod y Siarter nesaf, byddwn yn parhau i ymrwymo i fuddsoddi mewn rhaglenni ledled y DU ac yn sicrhau bod y rhaglenni drama a chomedi y byddwn yn eu cynhyrchu ar gyfer BBC One a BBC Two yn adlewyrchu amrywiaeth rhanbarthau a Gwledydd y DU yn well.  Fel roeddem wedi nodi ym Mhapur Strategaeth y BBC, mae cryfhau darpariaeth newyddion y BBC yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru yn ganolog i'n cynlluniau i wella sut byddwn yn gwasanaethu'r Gwledydd yn y Siartrer nesaf.   Rydym am ymgynghori â chynulleidfaoedd ledled y wlad ynghylch a ydym wedi taro'r cydbwysedd iawn ar hyn o bryd rhwng bwletinau newyddion sy'n berthnasol i'r DU gyfan a bwletinau newyddion perthnasol i'r Gwledydd ar y teledu.'

22.  Mae hefyd wedi dweud y bydd yn atgyfnerthu ei wasanaethau i Gymru drwy greu 'gwasanaeth digidol rhyngweithiol ar gyfer pob un o Wledydd y DU.  Drwy greu 'sianeli' detholedig ar ein gwasanaethau digidol presennol - megis iPlayer - byddwn yn gallu darparu cynnig unigryw, a fydd yn galluogi'r BBC i arddangos rhaglenni sy'n bodoli eisoes yn ogystal â rhaglenni digidol newydd gennym ni ein hunain a gan ystod o bartneriaid."

 

23.  Yng nghyswllt Newyddion a Materion Cyfoes, mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn arbennig o awyddus bod y BBC yn adlewyrchu'r gwahaniaeth cynyddol mewn gwleidyddiaeth a pholisi cyhoeddus ymysg gwahanol genhedloedd y DU wrth i ddatganoli barhau i ddatblygu.  Un o'r pethau cyntaf a wnaeth yn ystod oes y Siarter gyfredol, yn ôl y cyngor a gafodd gan y Cynghorau Cynulleidfa, oedd comisiynu Adolygiad Didueddrwydd o'r ffordd yr oedd materion datganoledig yn cael eu trin a'u trafod yn rhaglenni newyddion Rhwydwaith y BBC.  Esgorodd hyn ar welliannau mawr o ran y ffordd yr oedd materion sydd wedi cael eu datganoli ar draws y DU yn cael eu trin a'u trafod.   Fodd bynnag, wrth i'r broses ddatganoli barhau i ddatblygu ar draws y DU, mae'r dasg o roi sylw i agendâu cymdeithasol a domestig gwahanol y pedair gwlad a'u pobl mewn rhaglenni newyddion rhwydwaith yn fwyfwy heriol. Bydd angen i'r BBC barhau i ymateb i hyn ac mae gwaith i'w wneud o hyd, er enghraifft, mae Cyngor Cynulleidfa Cymru yn pryderu o hyd ynghylch goblygiadau prinder sylw Radio 2 i Gymru yn ei chynnyrch newyddion yng ngoleuni ei phoblogrwydd yng Nghymru. 

24.  Rydym yn croesawu addewid Bwrdd Gweithredol y BBC yn ei ymateb i'r Papur Gwyrdd i gryfhau ei ymrwymiad i adlewyrchu'r DU ddatganoledig yn ei raglenni newyddion a materion cyfoes.  Dywed:

'Wrth i'r broses ddatganoli gyflymu - ac wrth i'r DU newid yn gynt nag y gwnaeth o fewn hanes diweddar - bydd angen i ni addasu ein gwasanaethau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu ac yn cofnodi gwleidyddiaeth gynyddol wahanol y DU yn llawn. Mewn egwyddor, ni ddylai'r BBC arwain newid cyfansoddiadol yn y DU ond ni ddylai chwaith fod ar ei hôl hi yn y cyswllt hwn. Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod dinasyddion ym mhob un o bedair Gwlad y DU yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud synnwyr o'u byd ac i ddal y rheini sydd mewn grym yn atebol.

'Gan fod mwy o ddatganoli yn y DU, nid yw'r hyn sy'n newyddion mewn rhai rhannau o'r wlad yn berthnasol i rannau eraill ohoni. Mae gwleidyddiaeth ac economi'r wlad yn dod yn fwy amrywiol, ac mae adrodd arnynt yn fwy cymhleth. Mae gan y BBC ddyletswydd i sicrhau ei fod yn rhoi gwybodaeth i'r gynulleidfa yn y modd mwyaf effeithiol a pherthnasol. Credwn fod yr amser wedi dod i ni gael cydbwysedd gwell rhwng darparu newyddion sydd o bwys i'r DU yn gyffredinol a newyddion sydd wedi'i deilwra i agenda ac anghenion unigryw gwledydd datganoledig y DU.

'Fel cam cychwynnol, byddwn yn darparu hafan Newyddion wahanol i bob Gwlad. Byddwn yn personoli ein gwasanaethau newyddion er mwyn adlewyrchu diddordebau a buddiannau personol bob rhan o'r DU. Ond efallai y bydd angen i ni fynd ymhellach na hyn. Rydym am ymgynghori â chynulleidfaoedd ledled y wlad ynghylch a ydym wedi taro'r cydbwysedd iawn ar hyn o bryd rhwng bwletinau newyddion sy'n berthnasol i'r DU gyfan a bwletinau newyddion sy'n berthnasol i'r Gwledydd ar y teledu.' Mae ein gwasanaethau Newyddion heddiw yn boblogaidd iawn ac yn cael eu defnyddio'n eang gan gynulleidfaoedd, gan gynnwys y rhaglen Six O Clock News dadleuol.

'Ond yn sgil datganoli, y refferendwm yn yr Alban ac mewn byd lle mae agweddau cynhwysfawr o bolisi cyhoeddus wedi cael eu datganoli i'r Gwledydd, mae dadl gryfach o lawer erbyn hyn o blaid darparu cydbwysedd gwahanol o ran sut rydym yn gwasanaethu cynulleidfaoedd gyda'r rhaglenni newyddion a materion cyfoes mwyaf perthnasol.

Rydym yn edrych ymlaen at drin a thrafod yr amrywiol ddewisiadau gyda'n partneriaid, ein rhanddeiliaid, ein cynulleidfaoedd a Llywodraethau Cenedlaethol drwy'r broses o Adolygu'r Siarter.'

 

 

25.  Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd wedi awgrymu y dylid cryfhau geiriad un o Ddibenion Cyhoeddus allweddol y BBC er mwyn gwneud y ddyletswydd i adlewyrchu'r DU i gyd yng ngwasanaethau'r BBC yn ofyniad mwy penodol o dan y Siarter Frenhinol nesaf.  Argymhellwn ei eirio fel a ganlyn:

4. I adlewyrchu, cynrychioli a gwasanaethu pawb yn y DU

Dylai'r BBC adlewyrchu amrywiaeth lawn y DU yn ei raglenni. Wrth wneud hyn, dylai'r BBC gynrychioli a phortreadu bywydau'r bobl sy'n byw yn y DU heddiw mewn modd dilys a chywir, a chodi ymwybyddiaeth o ddiwylliannau a safbwyntiau gwahanol. Dylai sicrhau ei fod yn darparu rhaglenni sy'n diwallu anghenion gwledydd, rhanbarthau a chymunedau'r DU. Dylai ddod â phobl at ei gilydd i rannu profiadau a chyfrannu at les cymdeithasol y DU. Dylai'r BBC ddefnyddio technolegau cyfathrebu newydd ac adlewyrchu'r DU mewn oes ddigidol.

26.  Byddai hyn yn ychwanegu at y mentrau pwysig y mae'r Ymddiriedolaeth wedi'u hysgogi a'u cefnogi yng nghyfnod y Siarter hon i wella'r ffordd y mae'r BBC yn portreadu ac yn gwasanaethu Cymru a gwledydd a rhanbarthau eraill y DU. 

27.  Mae ymrwymiad y BBC i gyflawni ei gyfrifoldebau darlledu gwasanaeth cyhoeddus tuag at gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith wedi ei sefydlu fel un o elfennau pwysicaf bywyd yn y Gymru Gymraeg ers blynyddoedd cynharaf ei fodolaeth.    Cyn sefydlu S4C, y BBC oedd yn darlledu newyddion yn yr iaith Gymraeg, ond roedd yr arlwy yn cynnwys ystod eang o genres, gan gynnwys cyfresi comedi clasurol fel Ryan a Ronnie a dramâu Gwenlyn Parry, yn ogystal â blynyddoedd cynnar Pobol y Cwm sydd, yn yr un modd â newyddion y BBC, wedi goroesi'r newid i S4C yn llwyddiannus iawn.

28.  Mae Radio Cymru yn parhau i gadw ei rôl fel elfen allweddol o fywyd yn y Gymru Gymraeg ac mae Cymru Fyw, sef yr ap sy'n golygu y gellir cael mynediad at newyddion, chwaraeon a deunyddiau eraill yn yr iaith Gymraeg a gynhyrchir gan y BBC ac eraill, wedi bod yn gam pwysig ymlaen yn ystod y flwyddyn a aeth heibio o ran y ffordd y mae'r BBC yn gwella'r hyn sydd ganddo i'w gynnig i gynulleidfaoedd Cymraeg eu hiaith.

 

Atebolrwydd a threfniadau llywodraethu a chyllido'r BBC yn awr ac yn y dyfodol fel maent yn berthnasol i Gymru

 

29.  Yn sgil penderfyniadau a wnaed yn 2010, gyda ffi'r drwydded yn aros fel y mae a'r gofyniad ar y BBC i dalu costau ychwanegol, megis cyflwyno band eang yng nghefn gwlad a chyllido S4C a'r World Service, bu'n rhaid i'r BBC wneud arbedion sylweddol ar draws ei holl weithrediadau er mwyn gallu gweithio o fewn y cyllid sydd ar gael.  Mae'r BBC ar y trywydd iawn i sicrhau arbedion blynyddol cronnus o £1.6 biliwn erbyn diwedd y cyfnod siarter presennol yn 2016/17 a hyd yma mae wedi darparu £1.25 biliwn tuag at y targed hwn. Yn yr un modd â rhannau eraill o'r BBC, mae BBC Cymru wedi gorfod gwneud arbedion effeithlonrwydd heriol, ond nid ydynt wedi bod yn anghymesur.  

30.  Mae'r cyllid a nodwyd gan Ganghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon ym mis Gorffennaf 2015 yn golygu y bydd angen i'r BBC wneud rhagor o arbedion sylweddol yng nghyfnod y Siarter nesaf. 

31.  Rôl yr Ymddiriedolaeth yw cymeradwyo cyllideb y BBC ar lefel strategol.  Y Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau y tu hwnt i hynny, felly materion i'r Bwrdd Gweithredol yw sut yn union i ddyrannu'r gyllideb ac ym mha feysydd y ceisir arbedion.  Noda'r Ymddiriedolaeth fod y Bwrdd Gweithredol wedi nodi yn ei ymateb i'r Papur Gwyrdd y bydd yn 'diogelu cyllid ar gyfer y Gwledydd, gan sicrhau y gwneir llai o doriadau yn y maes hwn na mewn meysydd eraill.'  Felly mae'n hanfodol bod atebolrwydd Bwrdd Gweithredol y BBC i'r gwledydd yn y dyfodol yn ddigon cadarn i'w ddal yn atebol am gyflawni'r ymrwymiad hwn.

32.  Mae trefn lywodraethu'r BBC - yn fewnol ac o ran y ffordd y caiff ei oruchwylio a'i reoleiddio - yn bwysig oherwydd mae angen i'r gynulleidfa wybod bod y BBC mewn dwylo diogel a bod eu buddiannau yn cael eu gwarchod. Mae ein hymchwil yn awgrymu bod nifer o agweddau yn bwysig i'r cyhoedd. Maent am i'w harian gael ei wario'n ddoeth. Maent am i'r BBC fod yn annibynnol ac nid ydynt am iddo weithredu er ei fudd ei hun neu er budd gwleidyddion neu fusnesau. Mae angen i'r cyhoedd wybod os bydd rhywbeth yn mynd o chwith yr ymdrinnir â'r mater yn effeithiol ac y bydd y BBC yn dysgu o hynny. Mae angen i'r cyhoedd fod yn hyderus y bydd diwylliant a gwerthoedd y BBC yn golygu y bydd yn gweithredu yn ddidwyll ac er budd y rhai sy'n talu ffi'r drwydded.

33.  Credwn fod gwell eglurder o ran pwy sy'n gyfrifol am swyddogaethau a phwy sy'n gyfrifol am arfer y swyddogaethau hynny (rheoli, goruchwylio neu reoleiddio) yn bwysig.

34.  Rydym wedi awgrymu mai un ffordd y gellid gwella'r trefniadau llywodraethu fyddai drwy greu Bwrdd unedol gyda mwyafrif o Gyfarwyddwyr Anweithredol a Chadeirydd Anweithredol a benodwyd yn annibynnol i redeg y sefydliad, penderfynu ar ei strategaeth a rheoli ei gyllid. Byddai'r union fanylion megis cyfansoddiad y Bwrdd, penodiadau a chyfrifoldebau, yn cael eu trafod ar ôl cam cyntaf yr ymgynghoriad.

35.  Mae angen i'r BBC gael ei archwilio a'i reoleiddio yn annibynnol mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Pwy bynnag sy'n gyfrifol am y swyddogaeth, mae'r Ymddiriedolaeth yn credu ei bod yn bwysig bodloni disgwyliadau'r cyhoedd y bydd y BBC yn atebol i safonau uchel. Byddai hyn yn awgrymu trefn reoleiddio wedi'i chreu'n bwrpasol (eto heb ystyried pwy fydd y rheoleiddiwr).  Bydd hefyd angen i unrhyw strwythur sicrhau arolygiaeth a goruchwyliaeth ddiduedd er mwyn ymdrin â phryderon cystadleuwyr yng nghyswllt effaith ar y farchnad a masnachu teg. 

36.  Rydym yn croesawu'r Adolygiad annibynnol o sut y caiff y BBC ei lywodraethu a'i reoleiddio[2] dan arweiniad Syr David Clementi (‘adolygiad Clementi’) a byddwn yn ymwneud yn llawn â hwn er mwyn rhannu profiadau'r Ymddiriedolaeth o'r model presennol. Pa bynnag strwythur a gaiff ei ddewis, bydd yn rhaid iddo sicrhau hyder y cyhoedd a diwydiant.  Felly, y ffordd orau i wneud hyn yw cynnal adolygiad annibynnol a fydd yn ystyried yr holl dystiolaeth ac yn cyhoeddi ei argymhellion i'r llywodraeth. Pa ateb bynnag a gaiff ei lunio, credwn y bydd yn rhaid iddo roi sylw i'r prif egwyddorion canlynol:

·         Mae'n rhaid i'r BBC fod yn annibynnol ac mae'n rhaid iddo gael ei weld yn bod yn annibynnol.  Oherwydd ei rôl yn creu rhaglenni, ac yn hysbysu, addysgu a diddanu'r cyhoedd yn y DU, mae'n rhaid iddo fod yn annibynnol ar y Llywodraeth , gwleidyddion a buddiannau masnachol a breintiedig, a rhaid iddo gael ei weld yn bod yn annibynnol ar y rhain, fel nad ydynt yn gallu dylanwadu ar gynnwys ei raglenni neu ei neges.  Mae'r egwyddor hon yn gwarantu rhyddid mynegiant ac yn gynheiliad hanfodol o ran gallu'r BBC i ddal unigolion a sefydliadau'n atebol a bod yn ddiduedd yn yr holl gynnwys y mae'n ei ddarlledu ac yn ei roi ar lein.   Mae hyn yn adeiladu ar yr egwyddorion a gydnabuwyd gan y Llywodraeth yn ystod y trafodaethau ynghylch yr ymateb i Ymchwiliad Leveson sydd o'r pwys mwyaf i sefydliadau cyfryngau mewn cymdeithas ddemocrataidd a rhydd.

·         Craffu priodol ar sut mae'r BBC yn gwario arian talwyr ffi'r drwydded.  Nid yw'r BBC yn gallu trwyddedu a rheoleiddio ei hun.  Mae'n rhaid iddo fod yn atebol i dalwyr ffi'r drwydded am y gwasanaeth y mae'n ei roi. Mae'n rhaid i derfynau a gweithgareddau masnachu'r BBC hefyd fod yn agored i graffu annibynnol er mwyn sicrhau bod y farchnad yn hyderus ei fod yn masnachu'n deg ac yn deall yn iawn beth yw ei derfynau a'i gylch gorchwyl.

·         Mae'n rhaid i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud – yn arbennig gan eu bod yn talu am y BBC yn uniongyrchol drwy ffi'r drwydded.

37.  Mae sut y bydd strwythur llywodraethu'r BBC yn adlewyrchu'r angen am ymgysylltu â'r gwledydd datganoledig a'u cynrychioli yn fater allweddol y mae angen ei ddatrys fel rhan o'r Adolygiad o'r Siarter.   Mae sut y gellid addasu strwythur y BBC eisoes yn destun trafod.  Mae'r Ymddiriedolaeth yn cytuno y bydd angen i'r BBC fod yn fwy atebol i gynulleidfaoedd yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.  Credwn y bydd yn bwysig iawn bod hyn yn cael ei ystyried yn fanwl yn adolygiad Clementi, a byddwn yn awyddus i gyfrannu'n llawn at y drafodaeth. Mae angen trafod mater arall hefyd, sydd ar wahân i hyn, sef sut yn union y bydd y BBC yn adrodd ar ei weithgareddau a'i gynnig ym mhob gwlad.  Bydd y cwestiwn hwn codi yn sgil strwythurau llywodraethu ac atebolrwydd newydd. Cytunwyd ar yr egwyddorion adrodd bras eisoes rhwng y BBC, yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Llywodraeth Cymru mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.

38.  Dylai'r Siarter a'r Cytundeb Fframwaith nesaf fod yn gyfrwng i wella'r gwaith o gyfundrefnu'r berthynas gyda Senedd San Steffan, gan gynnwys Pwyllgorau Dethol, a gellir ehangu hyn i'r Cynulliad. Er enghraifft, mae darpariaeth yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y BBC, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban y cytunwyd arno yn ddiweddar bod y BBC yn gosod ei adroddiad blynyddol gerbron Senedd yr Alban ac yn ymddangos gerbron Pwyllgorau'r Alban ar faterion cysylltiedig â'r Alban 'ar yr un sail ag y gwna yn Senedd y DU'.  Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y BBC a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo'r partïon i sefydlu cydraddoldeb (yn amodol ar gytundeb, drwy gyfrwng Memoranda Cyd-ddealltwriaeth) rhwng y llywodraethau datganoledig yng nghyswllt cyfrifon ac adroddiad blynyddol y BBC a'i ymddangosiadau gerbron pwyllgorau.  Mae'r rhan berthnasol yn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn dweud fel a ganlyn:

 

Cyn cyhoeddi cyfrifon ac adroddiad blynyddol y BBC ar gyfer 2015/16, bydd y llofnodwyr yn cytuno ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth adolygedig, a fydd yn disodli'r memorandwm hwn, a fydd (yn amodol ar gytundeb) yn cynnwys ymrwymiadau yn y meysydd canlynol, er mwyn sefydlu cydraddoldeb ar draws y Llywodraethau datganoledig yng nghyswllt cyfrifon ac adroddiadau blynyddol ac ymddangos gerbron pwyllgorau:

·         Ymrwymiad ar ran y BBC i anfon ei gyfrifon a'i adroddiad blynyddol at Lywodraeth Cymru ac ymrwymiad ar ran Llywodraeth Cymru i osod y rhain gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru;  ac

·         Ymrwymiad ar ran y BBC i ymddangos gerbron pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â materion perthnasol i Gymru, ar yr un sail ag y gwna yn Senedd y DU.

39.  Ar hyn o bryd mae'r Ymddiriedolaeth yn cael cyngor rheolaidd gan ei rwydwaith o Gynghorau Cynulleidfa ac mae eu Hadolygiadau Blynyddol nhw yn darparu asesiad ychwanegol o berfformiad y BBC ym mhob un o'r gwledydd, ochr yn ochr â gwaith yr Ymddiriedolaeth.

40.  Yn ein hymateb i'r Papur Gwyrdd, rydym wedi dweud bod yn rhaid i'r BBC, yn yr un modd ag y mae'r Ymddiriedolaeth yn ei wneud ar hyn o bryd, roi proses ar waith a fydd yn galluogi'r cyhoedd i ddweud eu dweud pan mae strategaeth yn cael ei llunio. Rhaid iddo ystyried y sylwadau hyn cyn penderfynu ar gyfeiriad y BBC yn y dyfodol, boed hynny yng nghyswllt gwasanaethau unigol neu ynglŷn â ffurf y BBC yn gyffredinol.

41.  Mae'n rhaid i'r BBC fod yn atebol i gynulleidfaoedd yn y ffyrdd canlynol:

42.  Dylid defnyddio'r meini prawf hyn hefyd wrth ystyried strwythurau atebolrwydd ffurfiol.

43.  Mae strwythur ffurfiol o Gynghorau Cynulleidfa neu Ddarlledu wedi bod ar waith ers y 1940au hwyr, ac maent wedi chwarae rhan allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Ond, mae ffyrdd o ymgysylltu wedi newid yn arbennig o gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae dechrau system lywodraethu newydd ar gyfer y BBC yn adeg briodol i ystyried dyfodol unrhyw rwydwaith atebolrwydd ffurfiol.

44.  Unwaith eto, nid ydym o'r farn y dylai'r Siarter ragnodi hyn. Pa bynnag gorff sydd â dyletswydd i gynrychioli buddiannau'r rheini sy'n talu ffi'r drwydded ddylai fod yn gyfrifol am benderfynu sut mae am ddefnyddio cyrff cynulleidfa o amgylch y DU a sut gellid datblygu'r gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd gan a gyda'r Cynghorau Cynulleidfa mewn ffyrdd newydd ar gyfer yr oes ddigidol (er y dylai cyrraedd pob carfan o'i gynulleidfaoedd, gan gynnwys y rheini sydd ddim yn gallu cael mynediad at dechnoleg ddigidol, fod yn ystyriaeth bwysig o hyd).

45.  Mae'n hollbwysig fod y ddyletswydd i gynrychioli buddiannau talwyr ffi'r drwydded ac, yn benodol, i wneud hynny ledled y DU, yn cael ei gwreiddio yn y Siarter nesaf, drwy roi'r rhyddid i'r BBC a'i reoleiddiwr ddefnyddio'r dulliau priodol. Edrychwn ymlaen at ymgysylltu â'r Llywodraeth ynghylch y materion hyn.

 

Dyfodol S4C, gan gynnwys y trefniadau cyllido, gweithredu a llywodraethu, a'r gwasanaethau y bydd yn eu darparu

 

46.  Cyn i S4C gael ei hariannu'n bennaf o ffi'r drwydded yn 2013-14,roedd Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C wedi cytuno ar Gytundeb Gweithredu oedd yn cynnwys ymrwymo i gyllido S4C o ffi'r drwydded hyd ddiwedd setliad ffi'r drwydded y BBC, yn ogystal â'r rhaglenni oedd yn cael eu darparu gan y BBC i S4C yn statudol. 

47.  Mae'r berthynas newydd hon rhwng y BBC ac S4C hefyd yn golygu bod y BBC, er mis Tachwedd 2014, wedi gallu cynnwys holl raglenni S4C ar iPlayer ac mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn gwylio rhaglenni S4C ar lein.

48.  Mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r BBC ddarparu o leiaf 520 awr y flwyddyn o raglenni i S4C am ddim, wedi'u cytuno a'u cyflenwi yn unol ag y nodwyd yng nghytundeb Partneriaeth Strategol Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC. Bob blwyddyn, mae'r Ymddiriedolaeth yn cytuno ar Gynllun Rhaglenni blynyddol ar gyfer y ddarpariaeth hon gydag Awdurdod S4C, sy'n cynnwys y rhaglenni sy'n cael eu gwylio amlaf ar S4C. Yn  2015-2016, bydd y BBC yn darparu rhaglenni gwerth £19.4m ac mae'r gwariant hwn wedi'i sicrhau hyd ddiwedd y cyfnod ffi'r drwydded cyfredol y BBC yn 2017. 

49.  Mae'r Ymddiriedolaeth wedi monitro gweithrediad y cytundeb hwn, gan gyfarfod â swyddogion o S4C bob blwyddyn i drafod ei weithrediad a pherfformiad y sianel.  Pleser oedd cael gwybod bod y bartneriaeth rhwng S4C a'r BBC wedi ffynnu ac mae Awdurdod S4C a'r tîm rheoli yn gwerthfawrogi hyn.

50.  Nid yw'r Ymddiriedolaeth wedi dod i unrhyw gytundeb hyd yma, gyda Bwrdd Gweithredol y BBC nac Awdurdod S4C, ynghylch cyllido S4C o ffi'r drwydded dan Siarter newydd.

51.  Ond, mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi awgrymu y dylai S4C hefyd orfod 'gwneud arbedion effeithlonrwydd cyffelyb i'r rhai y mae'r Llywodraeth yn gofyn i'r BBC eu gwneud'.  Rhagwelwn y bydd S4C, fel corfforaeth annibynnol, am drafod ei dibenion a'i chyllideb ar gyfer y dyfodol gyda'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn ei rhinwedd ei hun yn ogystal â gyda'r BBC yn y misoedd i ddod.

52.  Credwn ei bod yn gwneud synnwyr i greu cyfeirbwynt ar gyfer beth allai cydberthynas fel yr un a ragwelir gan yr Ysgrifennydd Gwladol ei olygu ar sail y trefniadau llywodraethu a chyllido sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae'n amlwg na ellir ystyried hyn yn sefyllfa derfynol gan na fydd yr Ymddiriedolaeth na rheolwyr y BBC yn gallu gwneud ymrwymiadau pendant hyd nes y bydd  y broses sydd ynghlwm â'r Siarter wedi'i chwblhau ac y bydd setliad ariannol terfynol yn ei le. 

 

Sut y mae buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli yn ystod y broses adnewyddu

 

53.  Gydol yr holl waith y mae'r Ymddiriedolaeth wedi'i wneud, ers ei sefydlu, mae Cyngor Cynulleidfa Cymru wedi craffu ar wasanaethau'r BBC ar ran cynulleidfaoedd y BBC yng Nghymru ac wedi rhannu'r hyn maent wedi'i ganfod gyda'r Ymddiriedolaeth.  Mae'r Cyngor yn asesu rhaglenni a gwasanaethau'r BBC yng Nghymru yn barhaus ynghyd ag i ba raddau y mae rhaglenni Rhwydwaith y BBC a gweithgareddau eraill yn adlewyrchu amrywiaeth y DU a'i gwledydd, ei rhanbarthau a'i chymunedau. Mae gwaith o'r fath yn cynnwys canfod blaenoriaethau cynulleidfaoedd ar gyfer y BBC (yn seiliedig ar adborth ac ymchwil yng Nghymru) ac asesu perfformiad y BBC. Ar sail ei brofiad dros gyfnod y Siarter gyfredol, mae'r Cyngor yn rhoi cyngor i'r Ymddiriedolaeth ar holl agweddau'r adolygiad o'r Siarter sy'n berthnasol i Gymru.

54.  Mae'r Ymddiriedolaeth wedi sicrhau bod yr ymchwil y mae wedi'i chynnal sy'n sail i'w hymateb i Bapur Gwyrdd y Llywodraeth yn cynrychioli'r DU yn llawn, gan gynnwys Cymru.

55.  Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y BBC a Llywodraeth Cymru y cytunwyd arno yn ddiweddar yn nodi:

 

Bydd telerau rôl ymgynghorol ffurfiol Llywodraeth Cymru yn y broses o adolygu Siarter y BBC fel a ganlyn:

 

·         Bydd yr Adran yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch y cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr Adolygiad o'r Siarter cyn ei gyhoeddi.

·         Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod y cylch gorchwyl terfynol ar gyfer yr Adolygiad o'r Siarter gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

·         Bydd yr adran yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru drwy'r broses o adolygu'r Siarter.

·         Bydd Llywodraeth Cymru yn gosod y cytundeb fframwaith a'r Siarter ddrafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac os bydd y Cynulliad yn ystyried hynny'n briodol, bydd yn trefnu dadl 'nodi' ar gynnwys y Siarter ddrafft a'r cytundeb fframwaith.

·         Bydd yr adran yn ymgynghori â Llywodraeth Cymru cyn argymell I'w Mawrhydi mewn Cyngor bod y Siarter ddrafft yn cael ei chaniatáu

 

56.  Fel y nodwyd uchod, mae Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn ymwneud â rôl y Cynulliad yn hyn o beth yn cael ei gytuno rhwng yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, y BBC a'r Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd.



[1] Ffynhonnell: Arolwg Gorchwyl Pwrpas Ymddiriedolaeth y BBC, 2015

[2] https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/461078/20150916-Terms_of_Reference_for_independent_review_on_BBC_governance_and_regulation_.pdf